Rheg Mlynedd yn y Busnes

Share:

Listens: 0

Haclediad – Hacio’r Iaith

Technology


Logiwch allan o fywyd go-iawn am bnawn, joiwch Lockdown 2: Electric Boogaloo a dewch i ddathlu 10 mlynedd o’r Haclediad! Mae Bryn, Iestyn a Sioned am fynd â chi ar daith hiraethus lawr 10 mlynedd o’r RSS feed - gan groniclo’r bŵz, apps, tech a digwyddiadau sydd wedi’n newid ni ar y ffordd. Y #ffilmdiddim o 2010 yw The Last Airbender (ond peidiwch gwylio fo, mae’n ofnadwy). Daliwch i wrando mewn i awr 3 lle mae’r achos waethaf o igian erioed yn taro un o’r tîm… DIOLCH i bob un ohonoch chi sy’n gwrando bob mis - fyddwn ni’n falch o ddod â chi efo ni am 10 mlynedd arall