Comedy
Pedair merch. Tair problem. Probcast. Podlediad lle mae pedair merch gydag anableddau gwahanol yn trafod probs yr 21ain ganrif. Ym mhob pennod bydd Hollie Smith, Mared Jarman, Amber Davies a Beth Frazer yn rhannu probs bywyd nhw, o bethau bach annoying i bethau maen nhw wedi cael llond bol ohono. Bydd pawb yn cyflwyno’u hachosion i’r cadeirydd a’r achos gwaethaf sy’n ennill! Wythnos yma mae Mared yn dewis rhwng probs cyfryngau cymdeithasol y grŵp ac yn gofyn i gynulleidfa Hansh faint ohonyn nhw sydd wedi sleidio mewn i DMs rhywun.