Pennod 052 - Dirty Pop

Share:

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM

Arts


Sgwrs grwydrol yng nghwmni’r DJs, Esyllt Williams ac Ian Cottrell, aka Dirty Pop, sydd wedi bod yn swyno ravers Clwb Ifor Bach ers dros ddegawd. Pynciau llosg: eilliad agos Ian, brechdanau yn bwt y car, distractions gweithio adref, lloriau gludiog Clwb, ailwampio v adfeilio, cysgu yn y cyfnod clo, atgofion cerddorol cynnar, o dan ddylanwad mam a dad, Top of the Pops, Pop Brain of Britain, Ciwdod, Hanner Pei, cyfarpar cachu, Diffiniad, Superfuzz, The Legend of Al Bongos, Caryl PJ, caneuon am ddannedd, Carl Cox, Swynwr y Synths, cynnal y dawnslawr, straen y silent disco, rocio Techniquest, rugger buggers, cloddio cerddoriaeth, techneg, rhestrau chwarae, Mr Scruff a llawer mwy. Diolch i Mei Ty Cornel am ei gymorth gyda’r sain ac i Daf Palfrey a Hanner Pei am y theme tune.